Mae adborth wrth galon y system ac yn allweddol er mwyn cysylltu ar draws y pedair agwedd ar System Rheoli Ansawdd.
Mae pob un o'r agweddau ansawdd yn dibynnu ar system adborth ganolog lle mae dysgu gan randdeiliaid mewnol ac allanol yn cefnogi gwelliant parhaus, ac mae angen iddi gael ei llywio gan y system hefyd.
- Caiff Cynllunio Ansawdd ei lywio gan adborth a'i gysoni â phwrpas. Mae'n cefnogi arweinwyr i wahaniaethu rhwng materion 'busnes fel arfer' a gwelliannau strategol y mae angen eu blaenoriaethu, eu noddi a sicrhau bod yna adnoddau digonol ar eu cyfer.
- Mae mecanweithiau Sicrhau Ansawdd yn darparu data hanfodol ar berfformiad sefydliadol sy'n gallu helpu i gyfrannu at rowndiau cynllunio dilynol.
- Mae gweithgareddau Gwella Ansawdd yn gofyn am gylchoedd adborth cyflym sy'n asesu a yw newid yn gadarnhaol ac yn canfod canlyniadau annisgwyl.
- Mae Rheoli Ansawdd yn monitro prosesau ac yn eu cadw'n ddibynadwy bob dydd. Dylid grymuso staff i addasu'r prosesau yn ôl y gofyn.
Gall y system adborth gynnwys craffu ar y gorwel, cynhyrchu dirnadaeth, cyd-destun polisïau, anghenion y boblogaeth, a pherfformiad sefydliadol presennol. Mae dull GIG Cymru ar gyfer gweithredu System Rheoli Ansawdd yn dangos y modd y mae'r gwaith o feithrin cysylltiadau ac adborth parhaus yn helpu model gweithredu'r system i roi ansawdd wrth ei wraidd.
Mae astudiaethau achos cymuned Q gydag Ymddiriedolaeth Sefydliad Dwyrain Llundain a GIG Swydd Lanark yn darparu enghreifftiau integredig a sefydledig o dimau gwybodeg, tystiolaeth a data sy'n cefnogi gweithgareddau o ansawdd. Fodd bynnag, yn fwy cyffredinol, mae data gwael yn bygwth llethu cynnydd o ran y gwaith o ddatblygu ac ymgorffori System Rheoli Ansawdd.
Rydym yn argymell dull triphlyg o fynd i'r afael â heriau data ar draws y GIG:
- Mae angen ymrwymiad i fynd i'r afael â phroblemau technegol parhaus yn ymwneud â data (er enghraifft data coll, data anghywir, data wedi'u darnio a threfniadau llywodraethu cyfyngol). Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad mewn seilwaith data a safoni'r gwaith o gasglu data (neu o leiaf wneud y data'n gydnaws).
- Ochr yn ochr â'r agweddau technegol, rhaid i sefydliadau ddatblygu'r diwylliant a'r 'seilwaith dynol' i ddefnyddio data, dysgu wrthynt a gweithredu arnynt, a hynny mewn modd effeithiol. Gall hyn gynnwys sgiliau delweddu a dadansoddi data, ond mae hefyd yn ymwneud â meithrin rhwydweithiau o bobl, yn ogystal â diwylliant dysgu cydweithredol. Rhowch flaenoriaeth i ddefnyddio data ar gyfer dysgu a gwella yn hytrach na beirniadu neu sicrwydd allanol.
- Gall cynnydd gael ei wneud, a dylai gael ei wneud, ni waeth pa mor gyfyngol y mae'r data presennol. Gallai hyn ofyn am roi gwerth ar fathau gwahanol o ddata i lywio'r agweddau gwahanol ar System Rheoli Ansawdd, gan gynnwys data ansoddol, arolygon staff a chleifion, a chyd-gynllunio cyfranogol ar lefel sefydliadol, cyfarwyddiaeth a gwasanaeth.
Adnoddau cefnogol