Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n iach ar gyfer diabetes math 2

Mae bwyta’n iach yn rhan allweddol o reoli diabetes math 2, a gall hyd yn oed newidiadau bach, realistig effeithio’n sylweddol ar eich iechyd a’ch lefelau egni.

Mae’r adran hon yn dod â ryseitiau, cynllunwyr prydau bwyd, canllawiau syml ac adnoddau ymarferol eraill ynghyd i’ch helpu i wneud dewisiadau sy’n cefnogi eich lefelau glwcos a’ch llesiant cyffredinol.

Os ydych chi newydd dderbyn diagnosis neu'n ailedrych ar bethau o’r newydd, fe welwch chi adnoddau sy’n gweddu i’ch ffordd o fyw a’ch helpu i deimlo’n fwy hyderus o ddydd i ddydd. Dydy hyn ddim yn ymwneud â pherffeithrwydd – ond yn hytrach â dod o hyd i opsiynau blasus, cytbwys sy'n gweithio i chi.