Mae tystiolaeth wedi dangos y gall colli 15kg neu oddeutu 2 stôn a hanner yn fwriadol leihau HbA1c i lai na 48mmol/mol, ac yn aml gall hyn atal pobl rhag bod angen meddyginiaeth. Gelwir hyn yn Lleddfu Diabetes.
Siaradwch â'ch tîm gofal iechyd am wasanaethau rheoli pwysau yn eich ardal a all eich cefnogi i golli pwysau. Y camau cyntaf ar gyfer colli pwysau yw bwyta’n iach a gweithgarwch corfforol.
Hyd yn oed os nad ydych chi'n llwyddo i leddfu Diabetes yn llwyr, bydd gwneud newidiadau dietegol iach a cholli unrhyw bwysau’n gwella’r lefelau glwcos yn eich gwaed.