Sicrhau eglurder o ran llywodraethiant, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar gyfer System Rheoli Ansawdd (QMS). Dylai arweinyddiaeth fod yn weladwy ar bob lefel, gyda gweithgareddau'n cael eu llywio gan weledigaeth a gwerthoedd y sefydliad o ran ansawdd. Dylai arweinwyr gysylltu pob System Rheoli Ansawdd â blaenoriaethau’r sefydliad, staff a chleifion a sicrhau bod gwaith bob dydd yn cyd-fynd â phwrpas a strategaeth. Dylai uwch arweinwyr o fewn sefydliadau gael perchnogaeth dros y System Gwella Ansawdd a’i yrru ymlaen.
Dylai arweinwyr a rheolwyr feddwl am yr hirdymor, gan ganolbwyntio ar randdeiliaid, er mwyn datblygu gweledigaeth sefydliadol glir. Mae hyn yn cynnwys dangos ymrwymiad hirdymor i ddatblygu dull sefydliadol o reoli ansawdd. Yn aml, bydd yr ymrwymiad hwn yn golygu bod arweinwyr yn dal ati er gwaethaf pwysau i ganolbwyntio ar fetrigau perfformiad ansawdd tymor byr neu flaenoriaethau strategol eraill, e.e. rhestrau aros a chynhyrchiant. Bydd y ddisgyblaeth strategol hon yn golygu gwneud dewisiadau anodd.
Sicrhewch fod eich llywodraethiant, arweinyddiaeth ac atebolrwydd yn darparu gofal cynaliadwy ar draws meysydd ansawdd yn effeithiol Mae arweinyddiaeth yn benodol yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cysylltedd a chydlyniant ar draws gwahanol agweddau ar System Rheoli Ansawdd.
Dylai arweinyddiaeth yrru pob galluogwr a gweithgaredd arall ar gyfer systemau rheoli ansawdd. Mae pwysigrwydd arweinyddiaeth yn cael ei bwysleisio gan y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar systemau rheoli ansawdd.