Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu, gwella ac ymchwil: Galluogi rhannu ar draws y system

Creu a gwreiddio cyfleoedd ar gyfer dysgu ar draws y system. Mae dysgu gan eraill yn un o gonglfeini’r gwaith o adeiladu System Rheoli Ansawdd gadarn. Drwy ddeall beth sy'n gweithio'n dda mewn mannau eraill – a beth sydd ddim – gallwch osgoi dyblygu gwaith, cyflymu cynnydd a gwreiddio arferion profedig yn eich cyd-destun eich hun.

Mae canllawiau statudol y Ddyletswydd Ansawdd yn pwysleisio bod gwella ansawdd yn gyfrifoldeb parhaus ar draws y system. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom – ar draws lleoliadau ac ar draws swyddi clinigol ac anghlinigol – ddysgu a rhannu arfer gorau wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddarparu gofal diogel, effeithiol sy'n canolbwyntio ar y person.

Os ydych chi newydd ddechrau gyda System Rheoli Ansawdd neu'n mireinio dull sydd wedi ennill ei phlwyf, mae dysgu gan eraill yn hollbwysig wrth gryfhau eich system a chyflawni'r Ddyletswydd Ansawdd.

Adnoddau ategol: Dysgu, gwella ac ymchwil