Mae’r ffordd rydym yn defnyddio data i reoli ansawdd yn un o gonglfeini System Rheoli Ansawdd (QMS), ac mae pawb yn cyfrannu at hyn. Rhaid inni sicrhau bod gwybodaeth ar gael ac yn cael ei rhannu'n briodol i bawb sydd ei hangen.
Rhaid i chi ddeall pa ddata sy'n cael ei gasglu ar hyn o bryd ac a yw'n ychwanegu gwerth neu beidio. Byddwch yn glir ynglŷn â pha ddata fyddai’n ddelfrydol i chi. Os ydych chi'n sefydlu gwasanaeth newydd – ymgorfforwch set o fesurau a fydd yn dweud wrthych chi a ydych chi'n cyflawni eich targedau neu beidio.
Lle y bo modd, datblygwch y dull o fesur ar y cyd â staff a chleifion. Defnyddiwch egwyddorion mesur er gwelliant – rhannwch y mesurau yn rhai canlyniad, proses a, phan fo angen, mesurau cydbwyso.
Ewch ati i driongli mesurau meintiol ac ansoddol mewn perthynas â pherfformiad, profiad a chanlyniadau i ddeall ansawdd gwasanaethau, effeithiolrwydd gwaith gwella ac effaith y penderfyniadau a wneir. Cynhaliwch y llinyn aur gan sicrhau aliniad rhwng y mesurau ar draws y sefydliad.
Dylech olrhain a chyflwyno data dros amser. Defnyddiwch siartiau Rheoli Prosesau Ystadegol (SPC) a dewch i arfer â siarad am amrywiadau achos arbennig ac amrywiadau achos cyffredin. Byddwch yn gyson wrth gyflwyno data, a byddwch yn barod i herio data sy’n cael ei geisio mewn ffordd nad yw’n cefnogi penderfyniadau diogel e.e. data cyfanredol neu sgoriau Coch, Melyn, Gwyrdd (CMG). Defnyddiwch eiconau a marciau sefydledig i helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddehongli data.
Gwnewch yn siŵr bod gan y bobl iawn fynediad at y data iawn, ar yr amser iawn, a'u bod yn ei ddefnyddio am y rhesymau iawn:
Mae gan rai o'r datblygiadau mewn Deallusrwydd Artiffisial (AI) y potensial i gefnogi sefydliadau i drosi data yn wybodaeth y gellir gweithredu arni. Mae hyn yn cynnwys offer i ddeall anghenion y boblogaeth, i fonitro ansawdd mewn amser real, ac i ddelweddu mesuriadau ar gyfer gwelliant.