Ymrwymwch i wella ac i reoli ansawdd ar draws y system gofal iechyd gyfan. Bydd safbwynt gwirioneddol systemig yn golygu edrych y tu hwnt i ffiniau eich sefydliad er mwyn dysgu sut i fodloni anghenion esblygol y boblogaeth yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy. Dylech ymgorffori'r uchelgeisiau ehangach o fewn y saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae hefyd yn hanfodol i chi fabwysiadu’r safbwynt systemig hwn gyda’ch System Rheoli Ansawdd ei hun. Mae'n ddefnyddiol cynnal asesiad cychwynnol i nodi cryfderau'r system a pha feysydd y gellid eu gwella. Mae angen amser i adeiladu System Rheoli Ansawdd, ac mae'n bwysig nodi ffyrdd o symud ymlaen ar y daith trwy’r adeg.
Ystyriwch ddefnyddio matrics aeddfedrwydd GIG Cymru i asesu eich dull o reoli ansawdd a helpu i greu cynllun datblygu. Gellwch ddefnyddio hwn ar unrhyw lefel o'r sefydliad.
Creu map system. Byddai’n ddefnyddiol i chi ystyried sut mae gwaith yn cael ei alluogi neu ei gyfyngu gan ddylunio sefydliadol a nodi'r cysylltiadau a'r dibyniaethau sy'n cefnogi neu'n rhwystro gwaith i fodloni anghenion dinasyddion, rhanddeiliaid a staff.
Mae'r dull Ansawdd fel Strategaeth Sefydliadol yn argymell i chi greu map o’ch prosesau a'u rhannu’n brosesau sy’n gyrru, prif brosesau, neu brosesau cynorthwyol. Diffinnir y rhain fel:
Mapio eich gweithgareddau ansawdd cyfredol i agweddau'r System Rheoli Ansawdd (cynllunio, rheoli, gwella, sicrwydd a'r system adborth) a nodi ble ceir bylchau. Gyda phwy sydd angen i chi gysylltu i symud pethau ymlaen?