I gael diwylliant o ansawdd, rhaid mynd ati i’w feithrin ar bob lefel. Mae diwylliant yn dylanwadu ar sut mae pobl yn meddwl, yn gweithredu ac yn ymateb i heriau, ac mae’n hollbwysig os ydym wir eisiau i egwyddorion ansawdd gael eu hymgorffori mewn sefydliad.
Mae diwylliant o ansawdd yn ffactor pwysig sy’n galluogi Systemau Rheoli Ansawdd (QMS), ond nid yw’n rhagofyniad o reidrwydd. Mewn gwirionedd, gall sefydlu dulliau mwy systemig ar gyfer rheoli ansawdd a gwreiddio'r strwythurau a'r prosesau i'w gefnogi eich helpu i ddatblygu diwylliant o'r fath.
Drwy gymryd amser i ddeall y gwerthoedd, yr ymddygiadau a'r agweddau sy'n dylanwadu ar arferion dyddiol, byddwch yn dysgu gwersi a fydd yn eich helpu i nodi cryfderau a datblygu agweddau allweddol eich diwylliant a all ategu eich system rheoli ansawdd (QMS).