Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweithlu: Adeiladu'r tîm iawn, gyda'r sgiliau iawn

Mae gwreiddio system rheoli ansawdd yn golygu cyd-chwarae – rhaid cyfuno sgiliau technegol a chydweithredol. Mae'n gofyn am gydweithio ar draws swyddogaethau ac agweddau ar y System Gwella Ansawdd – gan sicrhau eich bod â’r gymysgedd iawn o swyddi a chyfrifoldebau.

Ar yr ochr dechnegol, mae System Gwella ansawdd yn gofyn am ddylunio prosesau, sgiliau dadansoddol, rheoli risg ac archwiliadau. Ond mae ymroddiad, datrys problemau, arweinyddiaeth ysbrydoledig a chyfathrebu effeithiol ar draws arbenigeddau llawn cyn bwysiced.

Dylech nodi pa sgiliau a swyddi sydd gennych, a neilltuo cryn dipyn o egni i'w cysylltu i’w gilydd. Efallai y byddwch hefyd yn gweld pa sgiliau arbenigol nad oes gennych yn fewnol. Mewn achosion o'r fath, mae rhai sefydliadau'n ymgysylltu â phartneriaid allanol – ac er y gall hyn fod yn gostus ac mae llawer o sefydliadau wedi gwneud cynnydd heb gefnogaeth o'r fath.

  • Mae gan y Bwrdd waith hanfodol i’w wneud wrth sicrhau cysylltedd strategol rhwng cynllunio ansawdd, rheoli ansawdd, gwella ansawdd a sicrhau ansawdd. Dylent feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o'r dull a'r methodolegau gwella y mae’r sefydliad wedi’u dewis, ei ddiffiniad o ansawdd a’r metrigau allweddol. Mae arnyn nhw angen y sgiliau i adolygu data ac i ymgysylltu â swyddogion gweithredol am dueddiadau mewn perthynas â bodloni anghenion cleifion.
  • Mae arweinwyr angen arbenigedd yn y pwnc dan sylw, yn ogystal â gwybodaeth a dealltwriaeth o amcanion sefydliadol a sut mae eu sefydliad yn gweithio. Mae angen iddyn nhw ddeall amrywiad a gwerthfawrogi seicoleg newid. Mae angen i arweinwyr feddu ar y sgiliau i ddeall sut mae blaenoriaethau ar draws y system yn cael eu cyflawni, ac i wneud penderfyniadau ynghylch adnoddau a chynllunio. Maen nhw angen sgiliau hefyd i feithrin ac i hwyluso cysylltiadau rhwng agweddau ar y System Rheoli Ansawdd.
  • Mae staff ar draws y sefydliad angen gwybodaeth a phrofiad ymarferol o’r prosesau a’r gwasanaethau o ddydd i ddydd sy’n bodloni anghenion cleifion a defnyddwyr gwasanaethau, o fethodoleg gwella'r sefydliad, a sut i weithredu newidiadau bach cynyddrannol drwy, er enghraifft, gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu (PDSA). Bob dydd, mae staff angen y sgiliau i ddeall a yw eu gwaith yn bodloni safonau ansawdd yn gyson. Mae angen iddyn nhw allu gweithredu i leihau amrywiadau direswm ac i wella prosesau pan fo angen.
  • Dylai cleifion a defnyddwyr gwasanaeth fod yn bartneriaid gweithredol wrth reoli ansawdd. Dylai hyn gynnwys nodi anghenion y boblogaeth, rhoi adborth ar brofiadau o wasanaethau, ysgogi gwelliannau a gosod ac archwilio yn erbyn safonau a metrigau. Mae hyn yn golygu bod angen cefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaeth i gael y sgiliau a'r galluoedd priodol i gymryd rhan lawn.

Nodwch sgiliau nad oes gennych a dysgwch gan sectorau eraill - Darllenwch yr erthygl Can we import improvements from industry to healthcare?

Adnoddau ategol: Adeiladu'r tîm iawn, gyda'r sgiliau iawn