Neidio i'r prif gynnwy

Niwed i'r nerfau (niwropathi)

Niwed i'r nerfau (niwropathi)

Mae niwropathi yn fath o niwed i'r nerfau a all ddigwydd gyda diabetes.

Mae fel arfer yn effeithio ar y nerfau yn eich traed a’ch coesau, ond gall hefyd effeithio ar eich dwylo a rhannau eraill o’r corff.

Gall symptomau amrywio o un person i’r llall, ond mae llawer o bobl yn sylwi ar deimlad ‘pinnau bach’, llosgi, poenau difrifol, neu ddiffyg teimlad.

Weithiau, efallai na fyddwch yn teimlo anafiadau bach i’ch traed, a dyna pam mae gwiriadau rheolaidd mor bwysig. 

Efallai y bydd angen triniaeth wahanol ar rai mathau o niwropathi, er enghraifft Syndrom Twnnel Carpel lle mae nerf yn sownd yn yr arddwrn. Efallai y bydd angen pigiad steroid neu fân lawdriniaeth arnoch. Ar gyfer rhai symptomau niwropathi, gall eich tîm diabetes awgrymu triniaethau lleddfu poen neu feddyginiaeth arall, yn dibynnu ar eich symptomau. 

Gall gwiriadau traed dyddiol, gwisgo esgidiau addas, a sicrhau bod unrhyw bryderon yn cael sylw’n brydlon helpu i warchod eich traed a’ch cadw i symud yn gyfforddus.