Awgrymiadau ar gyfer rheoli gofal traed a'r hyn y mae angen i chi gadw golwg amdano
Mae gofalu am eich traed yn rhan bwysig o fyw'n dda gyda diabetes.
Gall newidiadau mewn teimlad neu gylchrediad ddatblygu'n araf, felly gall gwiriadau rheolaidd eich helpu i ganfod unrhyw broblem yn gynnar cyn iddo ddod yn broblem.
Bydd eich tîm gofal iechyd yn archwilio'ch traed o leiaf unwaith y flwyddyn ac yn trafod beth mae’r canlyniadau’n eu golygu.
O ddydd i ddydd, gall arferion gofal traed syml wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Chi yw'r person pwysicaf o ran atal cymhlethdodau hirdymor i'ch traed.
Chi yw'r person gorau i wirio'ch traed bob dydd, gan gadw golwg am unrhyw newidiadau yn y croen, briwiau neu grafiadau. Os na allwch chi gyrraedd neu weld eich traed, gofynnwch i rywun eich helpu, fel eich teulu neu ofalwyr.
Gall deall sut i amddiffyn eich traed, dewis esgidiau addas, ac adnabod arwyddion cynnar megis cochni, chwydd, pothelli neu doriadau yn y croen, helpu i’w cadw’n iach.
Os byddwch chi’n sylwi ar rhywbeth anarferol, cysylltwch gyda’ch tîm gofal iechyd yn brydlon i helpu i atal cymhlethdodau.
Gyda'r wybodaeth gywir a gwiriadau rheolaidd, mae llawer o bobl yn teimlo'n hyderus wrth reoli iechyd eu traed ac yn cadw’n iach.