1 Medi 2025
Mae prosiect peilot newydd ar y gweill i ddeall defnyddio arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal iechyd pan fydd cleifion yn profi digwyddiad niweidiol. Y nod yw hyrwyddo dull gofal sy'n seiliedig ar hawliau dynol ac sy'n canolbwyntio ar y person.
Mae'r prosiect peilot, sy'n canolbwyntio ar gofnodi defnyddio arferion cyfyngol ar Datix Cymru, yn digwydd mewn Gwasanaethau Cleifion Mewnol Anabledd Dysgu Oedolion ar safleoedd ar draws pedwar bwrdd iechyd lleol: Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Hywel Dda, a Bae Abertawe.
Digwydda arferion cyfyngol pan gânt eu defnyddio i wneud i rywun wneud rhywbeth nad ydyw’n dymuno ei wneud, neu atal rhywun rhag gwneud rhywbeth y mae’n dymuno ei wneud. (Llywodraeth Cymru 2021).
Mae'r term yn cwmpasu ystod eang o arferion, sy’n cynnwys ataliaeth gorfforol, ataliaeth gemegol, ataliaeth amgylcheddol, ynysu, gorfodi, a mwy.
Wedi'i gynllunio ar y cyd â phob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru, bydd y prosiect peilot yn cynnwys profi'r swyddogaeth cofnodi newydd o fewn Datix Cymru rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr 2025. Mae'n gydweithrediad rhwng Perfformiad a Gwella GIG Cymru, Tîm Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru, a phob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru.
Fel rhan o'r cynllun peilot, mae newidiadau wedi'u gwneud i system Datix Cymru i ddarparu metrigau gwell a chaniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gofnodi pob digwyddiad niweidiol y gellid adrodd amdano. Mae'n ofynnol i sefydliadau adolygu defnyddio arferion cyfyngol i sicrhau ei bod yn gyfreithlon i’w defnyddio, wedi'i gyfyngu gan amser, ac yn gymesur â'r risgiau sy'n cael eu rheoli.
Ynghyd â Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol (2021) Llywodraeth Cymru, y gobaith yw y bydd y canfyddiadau'n cyfrannu at safoni cenedlaethol ar draws GIG Cymru, yn galluogi i arferion cyfyngol gael eu cofnodi'n gyson.
Mae fframwaith Llywodraeth Cymru yn galw ar bob lleoliad gofal i roi system ar waith i gofnodi, monitro ac adolygu defnyddio’r holl arferion cyfyngol. Mae lleihau arferion cyfyngol ar gyfer cleifion ag anabledd dysgu yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, sy'n cydnabod ei effaith ar draws pob poblogaeth. Bydd y prosiect peilot yn gwneud argymhellion ar gyflwyno’n ehangach ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.
Dywedodd David O'Brien, Cadeirydd Grŵp Gweithredu Prosiect Arferion Cyfyngol Datix Cymru:
"Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal y prosiect peilot hwn gyda Byrddau Iechyd i wella cofnodi, monitro ac adolygu'r mater pwysig hwn ym maes diogelwch cleifion. Mae lleihau arferion cyfyngol wedi bod yn ffocws allweddol i ni ers tro byd oherwydd ei fod yn ganolog i ddiogelu hawliau'r boblogaeth ac mae'n cael effaith uniongyrchol ar eu profiad gofal.
“Mae'r cydweithio sy'n digwydd ar y prosiect hwn yn galonogol iawn. Bydd yr wybodaeth a'r adborth yr ydym yn gweithio tuag at eu casglu drwy brofi'r newidiadau hyn yn llunio sut y byddwn yn cofnodi arferion cyfyngol ar draws GIG Cymru yn y dyfodol. Mae sicrhau bod arferion cyfyngol yn iawn yn gyfrifoldeb pawb a chyda'n gilydd gallwn gyflawni gwelliannau ystyrlon i gleifion,” ychwanegodd.
Darparodd Tîm Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru, rhan o Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, sesiynau galw heibio pwrpasol drwy gydol mis Awst 2025 i gefnogi staff trwy'r newidiadau i Datix Cymru.
Gellir gofyn am sesiynau pellach drwy gysylltu â: OnceForWales.CMS@wales.nhs.uk
Dywedodd Judith Lewis, Tîm Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru:
“Mae cael dull Unwaith i Gymru o adrodd a rheoli arferion cyfyngol yn sicrhau cysondeb, yn dileu amrywiad ac yn hyrwyddo unffurfiaeth wrth gasglu a dehongli data.
“Mae’r awydd am ddull Unwaith i Gymru i ddeall defnyddio arferion cyfyngol pan fydd cleifion yn profi digwyddiad niweidiol wedi bod yn galonogol. Roedd y nod o hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar y person o ran gofal cleifion yn flaenllaw yn y newidiadau a wnaed i system Datix Cymru.”